Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | canser y groth, uterine corpus cancer, endometriosis, neoplasm endometriaidd, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Canser yn deillio o'r endometriwm (leinin yr wterws neu'r groth) yw canser endometriaidd.[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Ymhlith yr arwyddion cyntaf o'r cyflwr y mae gwaedu gweiniol nad yw'n gysylltiedig â chyfnod mislifol. Mae symptomau eraill yn cynnwys poen wrth ollwng dŵr, poen yn ystod cyfathrach rywiol, neu boen pelfig. Yn fwy aml na pheidio, y mae dioddefwr yn datblygu canser endometriaidd wedi darfyddiad mislif.[3]
Mae oddeutu 40% o achosion yn gysylltiedig â gordewdra. Gellir adnabod cysylltiadau rhwng y cyflwr a phwysedd gwaed uchel, clefyd y siwgr ac amlygiad gormodol i estrogen. Rhai nodi, er bod cymryd estrogen ar ei ben ei hun yn cynyddu'r risg o ddatblygu canser endometriaidd, wrth gyfuno estrogen a phrogestin, fel y gwneir yn y rhan fwyaf o feddyginiaethau rheoli genedigaeth, y mae'r risg yn lleihau. Achosir rhwng dau a phump y cant o achosion gan enynnau etifeddol. Yn achlysurol, cyfeirir at ganser endometriaidd fel "canser crothol", er rhaid cydnabod bod y cyflwr yn wahanol i ganserau crothol eraill megis canser serfigol, sarcoma crothol, a chlefyd troffoblastig.[4] Carcinoma endometrioid yw'r math mwyaf cyffredin o ganser endometriaidd (oddeutu 80% o achosion).[5] Gwneir diagnosis wedi biopsi endometriaidd neu drwy gymryd samplau yn ystod gweithdrefnau o'r enw ymagoriad a chiwretiad. Fel arfer nid yw prawf rhwbiad o'r groth yn ddigonol er mwyn canfod canser endometriaidd.[6] I'r rheini sydd â risg arferol o ddatblygu'r cyflwr, ni chynigir sgrinio rheolaidd.[7]
Un o'r triniaethau pennaf ar gyfer dileu canser endometriaidd yw hysterectomi abdomenol (llawdriniaeth i dynnu'r groth yn gyfan gwbl o'r corff), ynghyd â gwaredi'r tiwbiau Ffalopaidd a'r ofarïau ar y ddwy ochr, a elwir yn salipeo-oofforectomi dwyochrog. Mewn achosion mwy datblygedig, argymhellir therapi ymbelydredd, cemotherapi neu therapi hormonau. Os gwneir diagnosis cynnar mae canlyniad cadarnhaol yn debygol, ac y mae 80% o ddioddefwyr yn byw o leiaf 5 mlynedd yn yr Unol Daleithiau wedi diagnosis.[8]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search